Digwyddiad Graddio Cyntaf yn Llwyddiant

Rydym yn falch o fod wedi cynnal ein seremoni raddio gyntaf erioed ar 14eg o Fehefin. Digwyddiad cyffrous yn dathlu ymrwymiad, angerdd a llwyddiant y dysgwyr sy’n graddio eleni.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gyda dros 40 o brentisiaid a’u teuluoedd a’u ffrindiau yn dod at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiannau yng Ngwesty a Sba pedair seren y Metropole yn Llandrindod.

Mwynhaodd pawb ginio bwffe wrth gyrraedd, cyn y seremoni draddodiadol, lle’r oedd unigolion yn camu ar y llwyfan i dderbyn eu sgroliau yn gwisgo capiau a gynau; gyda ffotograffau proffesiynol wedi’u tynnu drwyddi draw.

Daeth y digwyddiad i ben gyda diodydd dathlu gyda llawer o wenu a bonllefau a’r cyfle i deuluoedd gipio’r foment arbennig gyda’u lluniau eu hunain.

Rydym yn cynnal digwyddiadau fel y rhain i ddangos ein cefnogaeth i gyflogwyr, dysgwyr a’u cymunedau ac i ledaenu’r gair am fanteision niferus prentisiaethau yng Nghymru.

Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Arwyn Watkins araith groeso twymgalon lle llongyfarchodd bawb a oedd yn bresennol a’u hannog i symud ymlaen a bod yn llysgenhadon dros brentisiaethau a’r dilyniant gyrfa y maent yn ei ddarparu.

Esboniodd fod prentisiaid yn ennill arian wrth ddysgu gan arbenigwyr go iawn yn y diwydiant ac ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw gyda chefnogaeth gan fentor. Maent yn dysgu sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau ac mae ganddynt ragolygon cyflog hirdymor gwell a chyfleoedd dilyniant gyrfa ragorol.

Aeth Arwyn Watkins OBE ymlaen i ganmol y mentoriaid, swyddogion hyfforddi a phartneriaid preifat sy’n hanfodol wrth gyflwyno’r rhaglenni prentisiaethau ledled Cymru.

Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynorthwyo gyda chyflwyno prentisiaethau gan gynnwys Sirius, Babcock, Lifetime and Progression Training, a fynychodd pob un ohonynt hefyd i gefnogi eu dysgwyr a Hyfforddiant Cambrian.

Dilynwch y ddolen yma i weld lluniau o’r diwrnod: https://www.cambriantraining.com/wp/en/graduation-2022-2/ 

Darganfyddwch beth all prentisiaethau ei wneud i chi neu eich busnes trwy anfon e-bost atom yn: info@cambriantraining.com  neu ein ffonio ar: 01938 555893