Enillwyr Cymru yn ‘wylaidd’ oherwydd Gwobrau Mentor Pen-cogydd

Mae dau ben-cogydd amlwg o Gymru wedi dweud eu bod yn teimlo’n wylaidd i fod ymhlith yr enillwyr yn y Gwobrau Mentor Pen-cogydd cyntaf, a gynlluniwyd i gydnabod y mentoriaid mwyaf ysbrydoledig yn y sector, neithiwr (nos Fawrth).

Cynhaliwyd y gwobrau yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd, ac oeddent yn dwyn ynghyd arweinwyr o fwytai, gwestai, sefydliadau arlwyo ac addysg i ddathlu unigolion sydd wedi hyfforddi, meithrin ac ysbrydoli pen-cogyddion mewn ceginau ledled y DU.

Aeth y wobr ar gyfer Mentor Pen-cogydd Gwesty Gorau, mewn cydweithrediad â McVitie’s, i Hywel Jones, pen-cogydd gweithredol ym Mharc Lucknam yn Colerne, ger Chippenham, ac aeth y wobr ar gyfer Mentor Pen-cogydd Arlwyo Contract gorau, mewn cydweithrediad â Hope & Glory Tea, i Colin Gray o Capital Cuisine, Caerffili.

Ymateb Hywel i’r wobr: “Anhygoel, mae’n ddigon i’ch gwneud yn wylaidd. Nid wyf yn ystyried fy hun fel mentor, ond mae’n debyg, ar fy oed, bod gen i bobl ifanc sy’n gweithio o danaf. I fod yn fentor da, mae’n rhaid eich bod wedi cael eich mentora gan bobl dda.

“Cefais rhai mentoriaid da iawn yn ystod fy ngyrfa, gan gynnwys fy rhieni. Mae’r wobr hon iddyn nhw gymaint â mi.”

Dywedodd Colin, sy’n is-lywydd Cymdeithas Goginio Cymru, yn feirniad Worldchefs ac yn gyn-aelod o Dîm Coginio Cymru, y cafodd sioc i dderbyn y wobr.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill y wobr,” ychwanegodd. “Bûm yn ymwneud â mentora pen-cogyddion dros y blynyddoedd heb ddisgwyl cydnabyddiaeth. Mae cael fy anrhydeddu yn y ffordd hon yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn, a gobeithiaf y bydd yn ysbrydoli eraill pen-cogyddion eraill o Gymru i ddod yn fentoriaid.

Cyflwynwyd y wobr Mentor Pen-cogydd sy’n Seren y Dyfodol i Leon Seraphin, o CIC Beyond Food gan Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng, noddwr y wobr.

Dywedodd Cyrus Todiwala, OBE, cadeirydd y beirniaid: “Hoffem longyfarch yr holl enillwyr mewn cystadleuaeth anhygoel o anodd ei barnu. Mae pob un o’r pen-cogyddion a enwebwyd wedi rhoi cymaint i’r diwydiant ac wedi’n helpu i yn parhau i fod yn un o’r cyfranwyr mwyaf sylweddol at economi’r DU.

“Mae’r holl fentoriaid yn haeddu cydnabyddiaeth a hoffem fynegi ein diolch diffuant am bopeth maent yn ei wneud. Mae ein diwydiant yn seiliedig ar dalent, gwaith caled ac ymrwymiad llwyr i ddatblygu llawer o’n henillwyr heno.”

Cynhaliwyd y gwobrau fel rhan o H&C EXPO, digwyddiad deuddydd er mwyn helpu i ddiogelu dyfodol y diwydiant a dyma’r cyntaf o’i fath ar gyfer y sector.