Gostyngiadau i Brentisiaid!

Gyda bargenion gwerthiannau mis Ionawr ar y gorwel, bell gall fod yn well i brentisiaid i fedru prynnu nhw gyda chymorth ychwanegol cerdyn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM)

Os nad ydych chi’n gwybod beth yw cerdyn NUS, hwn yw’r prif gerdyn gostyngiadau yn y DU i fyfyrwyr sy’n cynnig dros 200 o ostyngiadau ar siopau’r stryd fawr ac ar-lein, gan gynnwys gostyngiadau ar deithio, chwaraeon, llyfrau, technoleg, ffôn symudol a band eang, yn ogystal â ffasiwn, harddwch a bwyta allan.

Beth yw’r gost?
Mae’r cerdyn yn rhesymol dros ben, prynwch gerdyn 1 flwyddyn am £11 neu gerdyn dwy flynedd am £19!!

Ar ôl i chi gael y cerdyn, byddwch yn derbyn mynediad unigryw i gannoedd o ostyngiadau ar-lein ac ar y stryd fawr. Rydym wedi dewis rhai o’r gostyngiadau mwyaf poblogaidd i’w rhannu gyda chi;

  • Cael tamaid i ginio neu swper gyda ffrindiau – cewch ostyngiad o 10% yn The Co-Op a 25% oddi ar eich hoff pizza yn Domino’s
  • Ffasiwn – Beth am ostyngiad o 10% yn ASOS a BooHoo.com
  • Mynd i ffwrdd? – Cewch ostyngiad o 25% yn Holiday Extra – gan gael gostyngiadau i chi ar barcio a gwestai meysydd awyr.
  • Angen Gliniadur Newydd – Cewch ostyngiad enfawr o 35% yn HP

Yn barod i wneud cais?
Mae’n hawdd iawn cofrestru i gerdyn NUS i Brentisiaid, y cyfan sydd arnoch ei angen yw llun diweddar ohonoch chi a’ch cerdyn debyd/credyd. Ewch i apprenticeextra.co.uk a rhowch rai manylion. Bydd eich cerdyn newydd yn cael ei anfon atoch ymhen rhai dyddiau!

Ddim yn brentis eto?
Beth am ennill wrth ddysgu a chael sgiliau newydd gwych, gallwch gael gwybod mwy am sut i fod yn brentis yn 2021 trwy fynd i’n gwefan cambriantraining.com