Her cigyddiaeth WorldSkills yn teithio i Ogledd Iwerddon

Heddiw cynhelir ail ragbrawf her cigyddiaeth WorldSkills eleni yng Ngogledd Iwerddon.

Mae cystadleuaeth heddiw’n dilyn rhagbrawf Cymru mis diwethaf, pan enillodd Hannah Blakey 16 oedd y nifer fwyaf o bwyntiau. Bydd y chwe chigydd ifanc sy’n cael y nifer uchaf o farciau allan o ragbrofion Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn gymwys i’r rownd derfynol a gynhelir yn The Skills Show yn NEC Birmingham rhwng 17-19 Tachwedd.

Yn cymryd rhan yn rhagbrawf Gogledd Iwerddon, a gynhaliwyd yn y Southern Regional College yn Newry mae: Sam Canning 18 oed o Siop Fferm Forthill, Sir Armagh; Dylan Gillespie, 20 oed, o Clogher Valley Meats yn Sir Tyrone; James Gracey, hefyd yn 20 oed, o Quails of Dromore in Sir Down; a Martin Naan, 26 oed, o Kettyle Irish Foods yn Sir Fermanagh.

Mae Gillespie yn gobeithio y bydd profiad blaenorol mewn cystadlaethau yn ei gynorthwyo. “Rwy’n teimlo’n hyderus amdano, bydd yn llawer o hwyl,” meddai.

Cyrhaeddodd y cigydd ifanc rownd derfynol cystadleuaeth y llynedd, yn ogystal â chystadlu yng Nghystadleuaeth Cigydd Ifanc Premier, ochr yn ochr â Gracey, ym mis Ebrill.

“Y llynedd oedd y gystadleuaeth gyntaf i mi wneud erioed,” ychwanegodd Gillespie. “Enillais y rhagbrawf ac roeddwn yn drydydd ym Mirmingham.”

Cigyddiaeth yw un o’r 60 ar ddangos yn The Skills Show, dyluniwyd y cystadlaethau i wella rhaglenni hyfforddiant a phrentisiaeth yn ogystal â gwella a hyrwyddo sgiliau yn y diwydiant.

Bydd y fformat yr un peth â rhagbrawf Cymru, bydd her Gogledd Iwerddon yn cynnwys dwy ran – yn y cyntaf bydd y cigyddion yn cael 45 munud i dorri ochr cyfan o gig eidion, ac yn yr ail ran bydd gofyn i’r cystadleuwyr gynhyrchu arddangosfa ar thema barbeciw mewn awr a hanner.

Beirniaid y gystadleuaeth fydd prif weithredwr Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd (NFMFT) Roger Kelsey ac ymgynghorydd y diwydiant Viv Harvey.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn trefnu’r gystadleuaeth, â chefnogaeth Gr?p Llywio’r Diwydiant a’r unig bartner cyfryngau yw Meat Trades Journal.

Cynhelir rhagbrawf Lloegr ar 5 Gorffennaf.