Hwb i Allforion Cig Oen i’r Almaen

Gall Gig Oen Cymru fod ar fwy o fwydlenni bwytai yn yr Almaen cyn hir. Mae’r cyflenwr bwyd pwysig TransGourmet wedi ychwanegu’r cig at ei rhestr o gynnyrch, a bydd arddangosfeydd Cig Oen Cymru yn rhan o’i ffeiriau ar gyfer cleientiaid yn ystod yr hydref.

Cymerodd Hybu Cig Cymru (HCC) ran mewn ffair fasnach bwysig yr wythnos hon yn Augsburg. Ar y stondin, cynhaliwyd arddangosfeydd gan y cigydd ifanc dawnus Matthew Edwards, ac yn ogystal roedd cyfle i gogyddion a phrynwyr i flasu Cig Oen Cymru wedi ei goginio yn y fan a’r lle.

Yn ôl Alex James, Swyddog Gweithredol Allforion HCC, mae sicrhau lle ar restr TransGourmet yn gam pwysig arall i Gig Oen Cymru. “Mae Almaenwyr yn adnabyddus am eu hoffter o gig, ac mae’r wlad wedi bod yn farchnad bwysig i Gig Oen Cymru ers peth amser,” meddai Alex, “ond mae’r cam yma yn gyfle pellach i ni hyrwyddo’r brand ymhlith cwsmeriaid gwasanaeth bwyd a sicrhau mwy o werthiant yn yr Almaen.”

“Mae Cig Oen Cymru, sy’n cario’r marc PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig / Protected Geographical Indication), yn gynnyrch o safon sy’n berffaith ar gyfer cogyddion,” ychwanegodd. “Dangosodd yr ymateb yn Augsburg fod diddordeb mawr yng Nghig Oen Cymru, a gobeithio y bydd cynnydd yn y galw ymhlith prif fwytai’r Almaen.”

Enillodd Matthew Edwards, o Gigydd Vaughan’s ym Mhenyffordd yn Sir Fflint, bencampwriaeth bwysig Worldskills UK yn 2015, ac ymddangosodd yn rownd derfynol cystadleuaeth Clwb Cigyddion HCC eleni.

“Cawsom ddeuddydd prysur iawn yn y ffair yn Augsburg,” meddai Matthew. “Roedd gan y cigyddion, cogyddion a phrynwyr a fynychodd ddiddordeb mawr yn yr arddangosfeydd bwtsiera, ac roedd ymateb gwych i’r cynnyrch, gyda sawl un yn son am flas godidog Cig Oen Cymru.”

Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad HCC; “Mae’n wych i weld twf yn y galw am gig coch Cymreig yn yr Almaen, gyda’n cynnyrch nawr yn cael ei gynnig gan amryw o werthwyr megis Frische Paradies, Havelland Express, Schwamm ac nawr TransGourmet. Bydd HCC yn parhau i weithio gyda chynhyrchwyr i hybu’n brandiau yn y farchnad fawr a phwysig hon.”