Hyfforddiant Cambrian yn arwain y ffordd wrth i Man v Horse dychwelyd i Ganolbarth Cymru

Mae cyffro yn cynyddu ledled Canolbarth Cymru wrth i ni nesáu at Ras Man v Horse enwog sy’n dychwelyd am y 45fed tro i Lanwrtyd ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.

Rydym yn arbennig o falch y bydd dau aelod o dîm Hyfforddiant Cambrian, Donna Heath ac Alex Hogg, yn cymryd rhan i weld a allent guro’r marchogion a’u ceffylau hyd at y llinell derfyn.

Mae’r Ras Man v Horse eiconig yn weld rhedwyr a marchogion yn cystadlu mewn ras ar draws cefn gwlad a thirwedd heriol Canolbarth Cymru mewn cystadleuaeth sydd wedi denu sylw rhyngwladol. Mae’n gystadleuaeth a gynlluniwyd i brofi penderfyniad a dygnwch cystadleuwyr ac adeiladu ysbryd cymunedol – gwerthoedd y mae Hyfforddiant Cambrian yn ei adlewyrchu’n gryf.

Mae Donna, rhedwr profiadol sydd wedi cystadlu mewn rasys o 10km i farathon a marathon pellter eithafol ledled Cymru, wedi edmygu’r ras ers amser maeth ac mae’n gyffrous i gymryd rhan am y tro cyntaf. Mae Alex yn mwynhau rhedeg er lles corfforol a meddyliol ac wedi cystadlu yn y Ras Devil’s Staircase Get Jerky sydd hefyd yn cael ei chynnal yn Llanwrtyd. Mae’n gobeithio y bydd hyn yn rhoi’r fantais gartref iddo, wrth iddo gystadlu yn erbyn 75 o geffylau a 706 o redwyr unigol.

Mae eu cyfranogiad yn cynrychioli’n berffaith y twf, uchelgais a’r gwydnwch rydym yn eu hannog yn ein holl staff a phrentisiaid yn Hyfforddiant Cambrian.

Gallwch ddod o hyd i ni yn y maes gorffen ar y diwrnod; yn ogystal â’n chwaer gwmni Trailhead Fine Foods lle gall ymwelwyr prynu ein Get Jerky wedi’i gynhyrchu â llaw gan ddefnyddio cig eidion Cymreig PGI ac yn llawn protein i’ch pweru trwy gydol y dydd.

Fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddatblygu pobl Cymru, cefnogi busnesau Cymru a buddsoddi mewn cymunedau Cymru, rydym yn falch o fod yn brif noddwyr Ras Man v Horse.

Hoffem ddymuno’r gorau i bob rhedwr, marchog, marsial a’r trefnwyr ar gyfer diwrnod y ras.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod i ddweud helo.