Mae Hyfforddiant Cambren yn addo cefnogaeth i elusen lletygarwch

Mae’r prif ddarparwr prentisiaethau yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru yn cefnogi elusen sy’n darparu cymorth ariannol i leddfu tlodi i bobl sy’n gweithio neu sydd wedi gweithio ym maes lletygarwch y DU.

Mae Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng,
Llanelli, Llanfair ym Muallt, Caergybi a Bae Colwyn, wedi dod yn aelod corfforaethol o Hospitality Action, wrth i bandemig Covid-19 barhau i effeithio ar y sector.

Mae’r cwmni’n bwriadu cynnal digwyddiadau, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, i godi arian ac i hyrwyddo gwaith yr elusen.

“Rydyn ni’n credu mai cefnogi Hospitality Action yw’r peth iawn i’w wneud yn yr amseroedd heriol i’r diwydiant,” meddai Arwyn Watkins, OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian a Llywydd Cymdeithas Goginiol Cymru.

“Mae gan aelodau o’n tîm lletygarwch ein hunain brofiad uniongyrchol trwy weithio gyda phrentisiaid bod angen dybryd inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyd-weithwyr yn y diwydiant.”

“Mae yna bethau sylweddol, fel trefnu ciniawau gourmet a digwyddiadau eraill y gallwn eu gwneud ledled Cymru i godi arian ar gyfer Hospitality Action pan ddaw’r pandemig i ben.”

“Fel y darparwr prentisiaethau mwyaf yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru, mae Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i fod yn arweinydd a byddwn yn annog ein prentisiaid i gymryd rhan.”.

Dywedodd Giuliana Vittiglio, rheolwr codi arian a marchnata Hospitality Action: “Ers i’r pandemig daro, rydym wedi helpu teuluoedd lletygarwch dirifedi i roi bwyd ar y bwrdd, talu eu biliau a gofalu am eu plant.”

“Mae Covid-19 wedi gweld galw cyson am ein gwasanaethau ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i Gwmni Hyfforddiant Cambrian am estyn allan i roi help llaw.”

Mae Hospitality Action yn cynnig cwnsela, cyngor a chyfeiriad i bobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl neu’n delio â salwch, profedigaeth, dyled neu ddibyniaeth. Maent hefyd yn cynnal rhaglen allgymorth i helpu pan bod pobl sydd wedi ymddeol o’r sector lletygarwch yn teimlo yn unig.

Pan ddechreuodd y clo cenedlaethol cyntaf fis Mawrth diwethaf, helpodd Hospitality Action filoedd lawer o aelwydydd lletygarwch mewn argyfwng ariannol. Yn union fel ym mis Mawrth, ni all miliynau o weithwyr lletygarwch fynd i’r gwaith ac mae miloedd lawer wedi colli eu swyddi am byth.

Ers dechrau’r pandemig, mae’r elusen wedi gweithio’n ddiflino i helpu cymaint o bobl â phosibl trwy ddarparu grantiau brys i gadw bwyd ar y bwrdd, i gynorthwyo ymddeolwyr bregus y diwydiant i gael gafael ar gymorth lleol a thrwy ddarparu adnoddau iechyd meddwl i’r rhai sydd wedi cael trafferth yn ystod yr argyfwng.

I ddysgu mwy am yr elusen ewch at: www.hospitalityaction.org.uk