Oes gennych chi’r hyn sydd ei eisiau i gael eich enwi’n Gigydd mwyaf dawnus y DU?

Unwaith eto rydym yn chwilio am gigydd mwyaf dawnus y DU. Bellach dyma’i hail flwyddyn, ac mae cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills DU yn gobeithio dod o hyd i’r cigyddion gorau yn y diwydiant ym Mhrydain.

Mae’r gystadleuaeth gigyddiaeth yn canolbwyntio ar yr holl sgiliau hanfodol sy’n ofynnol ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel cigydd â nifer o sgiliau yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, yn profi sgil, arloesi, creadigrwydd, cyflwyniad, moeseg gwaith, dull ac ymdrin â charcas a phrif ddefnydd, gwastraff ac ymarfer gweithio diogel a hylan yn gyffredinol.

Nid oes yn rhaid i ymgeiswyr feddu ar unrhyw gymwysterau i roi cynnig arni, fodd bynnag mae’n rhaid eu bod wedi cwblhau cymhwyster uwch na lefel 4 mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd neu gyfwerth i roi cynnig arni. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd feddu ar sgiliau cyllell da ac o leiaf chwe mis o brofiad ymarferol.

I roi cynnig arni, mewngofnodwch i wefan www.worldskillsuk.org, y dyddiad olaf ar gyfer ymgeiswyr yw 7 Ebrill. Cynhelir rhagbrofion rhanbarthol rhwng mis Mai a mis Gorffennaf a bydd y chwe chigydd sy’n cael y sgoriau uchaf o bob rhan o’r DU yn cymhwyso ar gyfer y rownd derfynol a gynhelir yn y Skills Show yn NEC Birmingham 17-19 Tachwedd.

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills DU i wella rhaglenni hyfforddiant a phrentisiaeth a rhoi hwb i sgiliau yn y diwydiant. Roedd Cigyddiaeth yn un o blith mwy na 60 o sgiliau i fod yn rhan o gystadlaethau eleni.

Mae’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi ennill gwobrau, wedi trefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran WorldSkills DU gyda chefnogaeth gr?p llywio’r diwydiant a Meat Trades Journal yw’r unig bartner yn y cyfryngau.

Ymhlith y partneriaid sy’n noddi mae Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, Institute of Meat, Cyngor Addysg a Hyfforddiant Bwyd a Diod Cyf (ftc) ac ymgynghorydd yn y diwydiant Viv Harvey.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant, ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com. Ffynhonnell Meat Trades Journal