Pentref Cymdeithas Coginiol Cymru wrth wraidd digwyddiad Celtic Manor

Fis nesaf, bydd Pentref Cymdeithas Coginiol Cymru yn ganolog i’r H&C EXPO cyntaf, sef y sioe fasnach diwydiant lletygarwch ac arlwyo cymysg cyntaf i ddigwydd yn y wlad.

Cymdeithas Coginiol Cymru (CCC) oedd un o’r cefnogwyr cyntaf i fod yn gefn i’r arddangosfa newydd a gynhelir yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 17 a 18 Gorffennaf, ar y cam cysyniad ac mae wrth ei fodd o fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad arloesol.

Yn llenwi Pentref CCC fydd cefnogwyr CCC, gan gynnwys Bwyd a Diod Cymru, sef adran Llywodraeth Cymru sy’n cynrychioli’r diwydiant bwyd a diod, y darparwr hyfforddiant arobryn Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y gwneuthurwr llestri bwrdd ceramig Churchill, y cyflenwr offer arlwyo arbed egni a diogelwch bwyd MCS Tech Products, y cyflenwr gwlych a marinadau Major a’r Ymddiriedolaeth Bwyd Prydeinig a fydd yn hyrwyddo’r Gwobrau Gallu Cymhwysol, a adwaenir fel Triple A.

Bydd y CCC yn cael ei gynrychioli yn y digwyddiad gan y trysorydd Toby Beevers a’r is-lywydd Colin Gray a fydd yn recriwtio aelodau newydd ac yn hyrwyddo gwaith y gymdeithas a Thîm Coginio Cymru. Bydd eu stondin hefyd yn cynnwys cynhyrchion gan Koppert Cress.

Gan fod 2018 wedi’i dynodi’n ‘Flwyddyn y Môr’ gan Croeso Cymru, mae cangen dwristaidd Llywodraeth Cymru, sef Bwyd a Diod Cymru wedi dewis y môr fel ei thema yn yr arddangosfa. Bydd ystod o gynhyrchion bwyd a diod Cymreig o safon sy’n gysylltiedig â’r môr yn cael eu hyrwyddo.

Bydd MCS Tech Products yn arddangos ei ystod gyntaf o gynhyrchion Cooktek, gan gynnwys yr uned bwffe INCOGNEETO wedi’i phatentu gyda dysglau twymo Dolphin. Bydd Churchill yn arddangos ei lansiad haf o gynhyrchion arloesol ar gyfer y diwydiant lletygarwch.

Bydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr hyfforddiant lletygarwch a phrentisiaethau mwyaf Cymru, yn hyrwyddo’i wasanaethau i’r diwydiant arlwyo a lletygarwch, gan gysylltu datblygiad sgiliau â chyflawniad yr amcanion busnes.

Bydd Major yn arddangos ei ystod newydd, sef pâst sudd cig llo, cawl pan-Asiaidd a marinadau seiliedig ar Mari gyda blasau o Korea.

Un thema ganolog trwy’r H&C Expo yw ‘Diogelu Lletygarwch i’r Dyfodol’ gyda siaradwyr a fforymau’n mynd i’r afael â’r prinder mewn pobl a sgiliau yn y diwydiant. Bydd yr arddangosfa, a ragflaenir gan Ddiwrnod Golff Elusennol H&C EXPO ar 16 Gorffennaf, yn cynnwys y ‘Gwobrau Mentor’ cyntaf hefyd, sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn datblygiad pobl.

Mae disgwyl i’r digwyddiad ddod â gweithwyr lletygarwch ac arlwyo proffesiynol Prydain at ei gilydd i arddangos y cynhyrchion a’r gwasanaethau diweddaraf, rhannu arfer gorau a thrafod a dadlau heriau’r diwydiant.

Gyda chynnwys yr H&C EXPO wedi’i ddatblygu trwy gyfres o grwpiau ffocws, arolygon a chyfweliadau gydag arweinwyr busnes, dyma’r cyntaf o’i fath i’r sector a chaiff ei ffurfio gan y diwydiant.

Bydd gweithwyr proffesiynol ar draws lletygarwch ac arlwyo’r DU yn trafod dyfodol lletygarwch trwy gynhadledd, byrddau crynion, arddangosfa, ‘Ffau Arloesedd’ at ddibenion caffael, sesiynau holi’r arbenigwr a lolfa gyda lluniaeth i brynwyr.

Gwnaeth llywydd CCC, Arwyn Watkins, sydd hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr ar Gwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, groesawu’r cyfle i ddwyn cefnogwyr ym Mhentref CCC at ei gilydd yn y digwyddiad.

“Rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o’r H&C EXPO, digwyddiad newydd ac arloesol i Gymru sy’n byrlymu mewn safon ac yn bodloni gyda’i gyfres drawiadol o siaradwyr a thrafodaethau’r ford gron.

“Rydym yn cefnogi’r diwrnod golff elusennol sy’n gysylltiedig â’r arddangosfa a’r gwobrau mentora, sy’n annhebyg i unrhyw wobrau eraill i gogyddion oherwydd maen nhw’n canolbwyntio ar ofalu, meithrin a mentora yn hytrach na choginio a chystadlaethau.

“Yn aml iawn yn y diwydiant hwn, mae’r bobl sy’n eich cael chi ble ydych chi yn eich gyrfa yn cael eu hanghofio ac mae hwn yn gyfle perffaith i gogyddion gydnabod eu mentoriaid.

“Gydag elitau lletygarwch yn mynychu, pwy na fyddai eisiau bod yn rhan o’r H&C EXPO? Edrychwn ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda busnesau lletygarwch o Gymru ac ar draws y DU.”