Rhowch y rhodd o ddysgu i weithwyr ar ddydd Sant Ffolant

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn annog cyflogwyr i ddangos ychydig o gariad a gofal i’w gweithwyr ar ddydd Sant Ffolant trwy roi’r rhodd o ddysgu iddynt.

Dyma’r adeg ddelfrydol o’r flwyddyn i gyflogwyr fuddsoddi mewn prentisiaid er mwyn rhoi i’w busnesau’r sgiliau y mae arnynt eu hangen nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r Rhaglen Gymhelliant i Gyflogwyr Gynnal Prentisiaethau’n rhoi cefnogaeth i fentrau bach a chanolig eu maint (BBaChau) recriwtio prentisiaid rhwng 16 ac 19 oed.

Nod y rhaglen yw rhoi i unigolion a chyflogwyr y sgiliau y mae arnynt eu hangen dros y tymor hir ac atal prinderau mewn sgiliau.

Cynigir cefnogaeth i uchafswm o dri phrentis fesul cyflogwr ac mae ar gael ni waeth beth yw lefel y brentisiaeth. Cynigir taliad o £3,500 fesul dysgwr i brentis sy’n cael ei recriwtio yn ystod mis
Gorffennaf, Medi a Ionawr i fis Mawrth a thaliad o £2,500 ar adegau eraill o’r flwyddyn. Gwneir y taliad yn llawn ar ôl i’r prentis gael ei gyflogi am wyth mis. Er mwyn cael rhagor o fanylion
am ystod lawn y cyfleoedd am brentisiaeth a’r gefnogaeth hyfforddiant sydd ar gael, cysylltwch â ni ar y Ffôn: 01938 555 893.

Mae prentisiaid yn hyfforddi yn y gweithle ochr yn ochr â gweithwyr profiadol, am ddwy i dair blynedd fel rheol. Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn goruchwylio’r hyfforddiant ac yn asesu
cynnydd y prentis yn rheolaidd. Mae’r prentisiaethau’n dechrau ar lefel dau: Prentisiaeth Sylfaen, ac yn symud ymlaen i lefel tri: Prentisiaeth, a lefel pedwar ac uwch: Uwch Brentisiaethau. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar E-bost: katy@cambriantraining.com