Selsig Calan Gaeaf – Rysáit Selsig Pwmpen a Bara Sinsir Sbeislyd

Er bod digwyddiadau’r wythnos Selsig Genedlaethol wedi cael eu canslo oherwydd y pandemig, does dim stopio ein prentisiaid cigyddion a Thîm Cigyddiaeth Crefft Cymru, Ben Roberts o M.E. Evans Ltd yn Owrtyn, a Craig Holly, Cigydd Chris Hayman ym Maesycwmmer i greu selsig ar thema Calan Gaeaf!

Fel rhan o’u prentisiaeth, maen nhw wedi gweithio gyda’i ffrindiau tîm i greu selsig â thema wreiddiol, gan glymu dau o’r blasau Calan Gaeaf mwyaf gyda’i gilydd sef bara sinsir a phwmpenni.

Mae Ben a Craig wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 a Phrentisiaeth Lefel 3 mewn Sgiliau a Rheoli Bwyd y Diwydiant Cig a Dofednod ac wedi symud ymlaen i Lefel 4 Prentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd. Mae’r ddau ohonyn nhw’n gigyddion medrus a gwybodus iawn. Mwy o Wybodaeth >>

Rhowch gynnig ar wneud y selsig hyfryd hon eich hun gyda’r rysáit isod neu gallwch brynu Selsig Pwmpen Sbeislyd a bara sinsir parod gan ein prentisiaid eu hunain; M.E. Evans Ltd yn Owrtyn, a Cigydd Chris Hayman ym Maesycwmmer.

Rysáit Selsig Pwmpen a Bara Sinsir Sbeislyd

I greu cymysgedd selsig 5 pwys o selsig Pwmpen Sbeislyd a Bara Sinsir bydd angen:

Cynhwysion

  • 1.5kg Mins Porc Cymreig Ffres (ysgwydd y porc yn ddelfrydol)
  • 0.275kg M. E. Evans Cymysgedd Selsig Cyfrinachol neu 40g sesnin selsig Brenhinol Cymreig
  • 10g (2 lwy de) Sinamon wedi’i falu
  • 10g (2 lwy de) Sinsir wedi’i falu
  • 5g (1 llwy de) Sbeis Cymysg
  • 20g Darnau Afal wedi’u Deisio’n Fân
  • 300g Pwmpen wedi’i Ddeisio’n Fân
  • 30g Syrup Aur
  • 180g Rusk
  • 450ml Dŵr Oer

Dull:

  1. Cyfunwch yr holl sbeis a’r cyfuniad selsig gyfrinachol mewn powlen.
  2. Rhowch y briwgig porc ffres mewn powlen gymysgu ar wahân.
  3. Ychwanegwch y cyfuniad sbeis i’r porc a’i gymysgu’n dda.
  4. Ychwanegwch y darnau afal a phwmpen wedi’u deisio a’u cymysgu.
  5. Trowch y surop i mewn a chyflwynwch y dŵr yn araf, gan gymysgu nes ei fod i gyd wedi’i amsugno. Ar y pwynt hwn gallwch naill ai llenwi’r crwyn selsig, neu os yw ar gael, briwliwch y gymysgedd trwy blât 8mm i gyfuno’r blasau ymhellach.
  6. Cysylltwch y crwyn selsig wedi’u llenwi â’r hyd a ddymunir. Fel arall, troellwch y selsig i mewn i droell a sgiwer drwyddo gyda sgiwer bambŵ, gan greu loli selsig siâp cansen candy.
  7. Gorffwyswch mewn oergell am o leiaf 6 i ganiatáu i’r blasau ddatblygu’n llawn cyn coginio.

Gair i gall; peidiwch ag anghofio y gallech chi wneud cawl cynhesu hyfryd (Dolen i’r rysáit) gyda gweddill eich pwmpen a dal i’w cerfio ar gyfer addurniadau brawychus i’r teulu eu mwynhau gartref.