Yr Ardoll Brentisiaethau yng Nghymru – Beth mae’n ei golygu i’ch busnes?

Mae prentisiaethau yn rhan bwysig o ddatblygu sgiliau a hyfforddiant yn y gweithle yng Nghymru, ni waeth pa sector rydych ynddo neu ba mor fawr neu fach yw’ch busnes.

O fis Ebrill 2017, bydd newidiadau i’r ffordd y caiff prentisiaethau eu hariannu, â Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau, a fydd hefyd yn effeithio ar fusnesau cymwys yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod ei hymrwymiad a’i darpariaeth o brentisiaethau yn parhau heb newid yn sgil cyflwyno’r ardoll a bydd yr holl gyflogwyr yn parhau i gael mynediad at ei rhaglen brentisiaethau.

Felly beth yw’r Ardoll Brentisiaethau?
Caiff yr Ardoll Brentisiaethau ei chasglu oddi wrth unrhyw gyflogwr sydd â bil cyflog mwy na £3 miliwn bob blwyddyn. Byddant yn talu 0.5 y cant o’u bil cyflog tuag at yr ardoll, er bod lwfans o £15,000 y flwyddyn.

Ni fydd yn rhaid i unrhyw fusnes â bil cyflog o dan £3 miliwn dalu’r ardoll.

Y syniad yw y bydd yr arian a godir trwy’r ardoll yn cael ei fuddsoddi’n ôl i mewn i brentisiaethau. Yn Lloegr, bydd cyflogwyr yn cael mynediad at arian ar gyfer prentisiaethau trwy system dalebau digidol newydd.

Ni fydd hyn yn wir yng Nghymru lle bydd busnesau yn parhau i gael mynediad at eu darpariaeth brentisiaethau trwy rwydwaith caffael presennol Llywodraeth Cymru o ddarparwyr hyfforddiant o ansawdd sicr, fel hyfforddiant Cambrian.

Sut y bydd yn effeithio ar gyflogwr yng Nghymru?
Yn gryno, bydd yr Ardoll Brentisiaethau’n effeithio ar gyflogwyr yng Nghymru sydd â bil cyflog mwy na £ 3miliwn yn unig. Byddant yn talu eu hardoll yn uniongyrchol i CThEM trwy drefniadau TWE presennol.

Ar gyfer yr holl gyflogwyr eraill, byddant yn parhau i gael mynediad at ddarpariaeth brentisiaethau trwy ddarparwyr hyfforddiant fel Hyfforddiant Cambrian. Felly, am y tro, ni fydd unrhyw effaith uniongyrchol ar y ffordd y mae cyflogwyr yn caffael darpariaeth neu hyfforddiant prentisiaeth.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893.