Does Dim yn Dal Ein Henillwyr yn Ôl!

Mae ein gwobrau Prentisiaeth flynyddol yn amser i ddathlu llwyddiannau aruthrol ein holl ddysgwyr a chyflogwyr.

Dywed y Rheolwr Gyfarwyddwr Mr Arwyn Watkins: “Mae’r gwobrau hyn yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad unigolion a chwmnïau i’r rhaglen brentisiaeth yma yng Nghymru.”

Cynhelir y digwyddiad cyffrous hwn yn flynyddol yng Ngwesty a Sba y Metropole yn Llandrindod, gyda phryd 3 chwrs a seremoni wobrwyo.

Cyhoeddir yr enillwyr ar y noson mewn cyflwyniad dwyieithog gyda lluniau proffesiynol yn cael eu tynnu o bob enillydd gyda’u gwobr a’u tystysgrif.

Roedd enillwyr pob categori eleni fel a ganlyn:

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Hannah Ffion Lewis, 22, o Disyllfa In the Welsh Wind, Tanygroes

Prentis y Flwyddyn: Ben Roberts, 30, M. E. Evans, Owrtyn-on-Coed.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Nerys Smithwick, 35, Y Casgliad Celtaidd, Casnewydd.

Unigolion Eithriadol y Flwyddyn: Fionntan Curran, 25, Ysgol Cerddoriaeth Forte yng Nghaerdydd a Kane Deacon-Roberts, 25, NS James Limited.

Micro Gyflogwr y Flwyddyn: The Menai Seafood Company, Porth Penrhyn, Bangor.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Distyllfa In the Welsh Wind, Tanygroes, Aberteifi.

Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Celtica Foods, Cross Hands, Llanelli.

Cyflogwr Mawr a Macro’r Flwyddyn: Y Casgliad Celtaidd, Casnewydd ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Roedd gan ddau o’r enillwyr prentisiaid anhygoel hyn rwystr ychwanegol i’w oresgyn, wrth iddynt frwydro â’r anhawster dysgu dyslecsia.

Mae Nerys a Kane ill dau wedi cael diagnosis ac eto nid yw’r un ohonynt erioed wedi gadael iddo eu dal yn ôl rhag cyflawni eu nodau.

Aethant ymlaen i fod yn hynod lwyddiannus yn eu prentisiaethau a’u gyrfaoedd, yn ogystal â dod yn enillwyr ein gwobrau mawreddog.

Fel darparwr addysg, ein cyfrifoldeb ni yw cefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant a sicrhau bod pawb yn manteisio ar brentisiaethau a bod cymorth yn cael ei roi i’r rhai sydd ei angen.

I ddeall mwy am fanteision arallgyfeirio eich gweithlu a’n cymhelliad recriwtio prentisiaid anabl cliciwch yma.

Unrhyw gwestiynau eraill? E-bostiwch ni yn: info@cambriantraining.com  neu ffoniwch ni ar: 01938 555893