Cymwysterau galwedigaethol yn cyfrannu at lwyddiant cwmni ailgylchu.

Mae cymwysterau galwedigaethol yn helpu cwmni ailgylchu o’r gogledd i wireddu ei uchelgais i beidio ag anfon dim gwastraff i safleoedd tirlenwi.

Mae gan gwmni Thorncliffe, a enillodd ddwy wobr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd, safleoedd gwastraff ac ailgylchu llwyddiannus yn yr Wyddgrug ac Abergele, y ddau ohonynt yn cadw 30,000 tunnell o wastraff y flwyddyn rhag cael ei daflu i safleoedd tirlenwi.

Yn awr, mae’r cwmni’n gobeithio cael rhagor o lwyddiant gan iddo gyrraedd rhestr fer Gwobrau VQ (Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol) Cymru sy’n dathlu llwyddiant dysgwyr a chyflogwyr ledled y wlad.

Mae Thorncliffe yn un o dri busnes sy’n cystadlu i fod yn Gyflogwr VQ y Flwyddyn, gwobr sy’n mawrygu cyflogwyr sy’n buddsoddi mewn dysgu galwedigaethol i hybu sgiliau yn y gweithle ac i wneud busnesau’n fwy cynhyrchiol a chystadleuol. Caiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yng Ngwesty a Sba Dewi Sant, Caerdydd ar 7 Mehefin, y diwrnod cyn Diwrnod VQ.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Colegau Cymru.

Er mwyn cyrraedd ei dargedau busnes, lansiodd Thorncliffe raglen Brentisiaethau bedair blynedd yn ôl, gan gydweithio’n agos â Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Erbyn hyn, mae ganddo 12 prentis. Gwelodd y cwmni fod angen gwella sgiliau ei weithlu o 98 ar ôl buddsoddi yn yr offer diweddaraf, yn cynnwys offer prosesu tanwydd sy’n deillio o sbwriel, sy’n belio gwastraff.

Enillwyd cyfanswm o 34 o gymwysterau, yn amrywio o Brentisiaethau Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy i Brentisiaeth Uwch lefel pedwar mewn Systemau a Gweithrediadau ac mae 12 arall ar y gweill.

Mae Thorncliffe yn cydweithio â’r Gwasanaeth Prawf i gynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith a hyfforddiant i gyn-droseddwyr fel rhan o’r rhaglen “8 ffordd i newid eich bywyd” sydd wedi ennill Gwobr Ysbrydoli! am y prosiect a gafodd yr effaith gymunedol fwyaf cadarnhaol. I ddechrau, cynigir profiad gwaith i gyn-droseddwyr ac, os yw hynny’n llwyddiannus maent yn cael cynnig swydd gyda hyfforddiant. Hyd yma, mae tri cyn-droseddwr wedi dilyn prentisiaethau gyda’r cwmni.

“Rydyn ni wedi gweld bod cynnig cymwysterau galwedigaethol i’r staff yn helpu i fagu awydd i ddal ati i ddysgu, yn gwneud iddyn nhw deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn eu gwneud yn fwy cynhyrchiol,” meddai Daniel Harper, rheolwr y safle ailgylchu yn yr Wyddgrug. “Mi welson ni fod angen gweithlu brwd oedd wedi’u hyfforddi’n dda a bod angen newid agweddau fel nad oedd pobl yn edrych ar weithio gyda gwastraff fel swydd annymunol ond eu bod yn edrych arno fel gwyddoniaeth newydd sy’n rhoi adnoddau ar gyfer ein dyfodol.

“Er mwyn i ni barhau i lwyddo, rydan ni’n credu ei bod yn hanfodol bod y staff yn dod i ddeall targedau ailgylchu a’r dechnoleg sy’n datblygu.”

Erbyn hyn mae’r gwobrau yn eu nawfed flwyddyn. Maent yn dathlu manteision a gwerth addysg dechnegol, ymarferol a galwedigaethol o safon uchel i unigolion a’r gymuned ac fe’u cynhelir y noson cyn Diwrnod VQ sydd ar 8 Mehefin. Mae gwobrau ar gyfer Dysgwr VQ y Flwyddyn Lefel Uwch a Lefel Ganolradd hefyd.

Ni fu cymwysterau galwedigaethol erioed yn bwysicach i’r economi nac i’r unigolyn; mae busnesau wrth eu bodd yn cael gweithwyr dawnus wedi’u hyfforddi’n arbennig ar gyfer gwaith ac maent yn ffordd i bobl ifanc ennill y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo mewn addysg a gwaith. Cewch ragor o wybodaeth am y gwobrau yn http://diwrnodvq.cymru

Capsiynau:
Daniel Harper (blaen), rheolwr yn safle cwmni Thorncliffe, sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn, yn yr Wyddgrug, gyda Heather Martin o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’r prentisiaid Michael Jones, Robert Moore a Lewis Speakman

Daniel Harper (canol) rheolwr yn safle cwmni Thorncliffe, sydd yn rownd derfynol Gwobr Cyflogwr VQ y Flwyddyn, yn yr Wyddgrug, gyda’r prentisiaid Michael Jones, Robert Moore a Lewis Speakman