Mae ein prentisiaid yn cynnig profiad bwyta newydd cyffrous

Yn dilyn gwaith adnewyddu, bydd bwyty Siartwyr 1770 yn Y Trewythen yn ailagor ar Fedi 5ed ac yn canolbwyntio ar ddatblygu prentisiaid i fod y genhedlaeth nesaf o staff ar gyfer y diwydiant lletygarwch.

Wedi’i leoli yn nhref farchnad hanesyddol Llanidloes, mae lle i 50 o bobl yn y bwyty ac mae’n cynnwys podiau bwyta awyr agored i grwpiau o hyd at 6 o westeion i fwynhau.. 

Mae bwyty’r Chartists 1770 yn rhan o’r Trewythen poblogaidd, sy’n cynnwys saith ystafell en-suite moethus ac sydd wedi bod yn brysur yn croesawu gwesteion drwy’ gydol yr haf.

Mae’r cogydd gweithredol Paul Fox wedi’i benodi i arwain tîm o brentisiaid dawnus yn y bwyty hyfforddi, sydd yn eiddo i Gwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae Paul, sydd wedi ei hyfforddi yng Nghorfflu Arlwyo’r Fyddin gyda’n Rheolwr Gyfarwyddwr Arwyn Watkins, yn edrych ymlaen at weithio gyda phrentisiaid i gyflwyno profiad bwyta modern gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol.

“Ein bwriad o’r cychwyn oedd sefydlu bwyty hyfforddi gydag ystafelloedd i ddatblygu a meithrin tîm i arddangos cynnyrch Cymreig,” meddai Arwyn.

“Bydd Paul yn rhannu ei brofiad a’i wybodaeth helaeth, yn amrywio o giniawa cain i arlwyo dan gontract a digwyddiadau, gyda phrentisiaid i ddatblygu prif gogyddion y dyfodol. Bydd y prentisiaid nid yn unig yn dysgu sut i goginio ond hefyd yn datblygu eu sgiliau rheoli cegin. Rwy’n gadarnhaol iawn ac yn gyffrous am botensial y busnes hwn.”

Arweiniodd sgwrs gydag Arwyn yn gynharach yn yr haf at gynnig y swydd i Paul yn Llanidloes. “Rwyf wrth fy modd â holl ethos Siartwyr 1770 yn Y Trewythen fel lle i bobl ifanc ddysgu,” dywedodd Paul, sydd newydd ei benodi.

“Nid y fi sydd ar sylw fan hyn ond mae’n ymwneud â mi yn hyfforddi, mentora a datblygu’r prentisiaid. Rydym yn ceisio creu bwydlenni a ryseitiau y gall ein holl brentisiaid eu coginio a byddwn yn eu hannog i gyfrannu eu syniadau eu hunain.”

“Gall cwsmeriaid edrych ymlaen at weld pobl ifanc y dref yn cynhyrchu profiad bwyta modern ar eu cyfer gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig o safon. Mae’r pwyslais ar gynnyrch Cymreig a chyflenwyr Cymreig yn cydfynd a phopeth dwi’n credu ynddo.”

Ochr yn ochr â Chwmni Hyfforddiant Cambrian, mae pawb yn Y Trewythen yn awyddus i chwarae eu rhan i ddod â phrofiad bwyta newydd cyffrous i’r gymuned leol, yn ogystal â sefydlu Llanidloes fel cyrchfan boblogaidd i dwristiaid fel porth i’r gymuned leol a Mynyddoedd Cambrian. 

I ddarganfod mwy am y bwyty hyfforddi gydag ystafelloedd arloesol hwn neu i archebu lle ewch i: https://www.trewythenhotel.wales/

Neu i drafod beth all prentisiaethau ei wneud i chi neu eich busnes e-bostiwch ni ar: info@cambriantraining.com  neu ffoniwch ni ar: 01938 555893