O Brentis i Berchennog Busnes Arobryn | Stori Ben

Ben Roberts butchery apprenticeship

Pan ddechreuodd Ben Roberts ei Brentisiaeth Cigyddiaeth Lefel 2 gyda Hyfforddiant Cambrian tua 14 mlynedd yn 么l, roedd am adeiladu ar y profiad ymarferol yr oedd eisoes wedi鈥檌 ennill yn y grefft. Yr hyn a ddilynodd oedd taith dysgu a fyddai鈥檔 rhoi鈥檙 sgiliau, yr hyder a鈥檙 wybodaeth fusnes iddo i drawsnewid ei yrfa.

Ar 么l cwblhau prentisiaethau Lefel 2 a Lefel 3 mewn cigyddiaeth, parhaodd Ben i ddatblygu ei arbenigedd trwy brentisiaethau Rheoli Bwyd a Rheoli Busnes. Rhoddodd y cymwysterau hyn nid yn unig feistrolaeth o鈥檌 grefft iddo ond hefyd dealltwriaeth ddofn o arweinyddiaeth, rheoli pobl a gweithrediadau busnes.

Heddiw, mae Ben yn berchennog Astley a Stratton Cyf yn Farndon, ger Caer, ar 么l cymryd y naid i lansio ei fusnes ei hun ym mis Ionawr 2024. Mae鈥檔 diolch i鈥檞 daith prentisiaeth am roi鈥檙 wybodaeth, yr hyder a鈥檙 sylfeini sydd eu hangen iddo i wireddu’r uchelgais honno.

Gyrfa wedi鈥檌 Adeiladu ar Sgiliau a Phenderfyniad

Mae llwyddiant Ben yn ymestyn ymhell y tu hwnt i berchnogaeth fusnes. Mae ei daith prentisiaeth wedi rhoi cyfle iddo gystadlu dros ei wlad a sawl gyflawniad arall.

  • Aelod o D卯m Cigyddiaeth Crefft Cymru ac enillodd fedalau efydd yn Her Cigyddion y Byd yn yr Unol Daleithiau;
  • Cystadlu yn WorldSkills UK, gan orffen yn trydydd yn genedlaethol;
  • Llysgennad Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.
  • Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru a Gwobrau Hyfforddiant Cambrian.

Ar 么l symud ymlaen o fod yn brentis cigydd i gael ei benodi i reoli M.E. Evans Butchers ac yna sefydlu ei gwmni ei hun, mae Ben bellach yn canolbwyntio ar roi’r un cyfleoedd i eraill, gyda chynlluniau i gyflogi a datblygu prentisiaid yn y dyfodol.

Neges Ben i Bobl Ifanc

“Mae prentisiaethau yn rhoi cyfle i chi wthio eich hun yn y gweithle. Mae’r cynnydd sy’n bosibl trwy brentisiaethau yn enfawr.”

Wireddu Uchelgais

Mae stori Ben yn adlewyrchu’n berffaith yr uchelgais a hyrwyddwyd gan Dyfan ac yn dangos bod yna lawer o lwybrau llwyddiannus y tu hwnt i lwybrau academaidd traddodiadol. Mae ei daith yn dangos nad canlyniadau TGAU a Safon Uwch yw’r nod terfynol, ond dechrau ystod o gyfleoedd. Trwy addysg alwedigaethol, prentisiaethau a dysgu parhaus, mae Ben wedi adeiladu gyrfa arobryn, cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a dod yn berchennog ei fusnes ffyniannus ei hun.

I bobl ifanc sy’n ystyried eu cam nesaf ar 么l diwrnod canlyniadau, mae taith Ben yn profi y gall addysg alwedigaethol agor drysau, datblygu sgiliau o’r radd flaenaf a throi uchelgeisiau gyrfa yn realiti.