25 peth rhyfeddol am Hyfforddiant Cambrian!

Mae Hyfforddiant Cambrian wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 25 oed eleni ac mae am ddathlu’r 25 peth rhyfeddol y mae’r cwmni wedi’u cyflawni.

1.Rydym yn arbenigwyr yn ein maes
Rydym yn arbenigo mewn Prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru a chyfleoedd Cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau i gefnogi cyflogwyr ac unigolion yng Nghymru. Mae Hyfforddiant Cambrian hefyd yn falch o fod yn gynrychiolydd parth ar gyfer y rhaglen KickStart newydd a lansiwyd yn 2020.

2. Darparwr Hyfforddiant Arobryn
Enillodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian wobr Darparwr Prentisiaeth y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau 2013.

3. Mae ein Prentisiaid a’n Cyflogwyr yn ennill gwobrau
Mae 26 o brentisiaid a chyflogwyr Hyfforddiant Cambrian wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru ac mae 10 wedi ennill, sy’n dangos y gall prentisiaethau wir wneud gwahaniaeth i’r busnesau a’r prentisiaid rydym yn gweithio gyda nhw – darllenwch rai o’u straeon FAN HYN.

4. Cysylltiadau Cryf â’r Diwydiant
Mae Hyfforddiant Cambrian yn ymroi i adeiladu, datblygu a chynnal perthnasoedd gyda sefydliadau sy’n arwain sectorau ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cyflwyno rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn, mae gennym nifer fawr o bartneriaid rhwydweithio, gan gynnwys: Cymdeithas Coginio Cymru, Cigyddion Crefft Cenedlaethol, aelodau Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol Cymru gyfan, Worldskills UK i enwi dim ond rhai.

5. Rydym yn gweithio o’ch cwmpas chi a’ch busnes
Yn Hyfforddiant Cambrian, rydym yn deall bod pob unigolyn a busnes y mae gennym gysylltiad â nhw yn unigryw, rydym yn ymroi i sicrhau y caiff pawb eu trin yn unigol, byddwn yn sicrhau bod ein hyfforddiant yn cael ei deilwra a’i ffurfio i’r cyflogwr a’r prentisiaid gan greu profiad dysgu sy’n gweddu i anghenion y ddau ohonynt.

6. Mae partneriaethau’n bwysig

7. Tîm hyfforddiant medrus gyda phrofiad o’r diwydiant
Mae gan ein staff dros 300 o flynyddoedd o brofiad cyfunol ar draws ystod o sectorau, gan roi i ni’r offer a’r arbenigedd i gyflwyno prentisiaethau o’r radd flaenaf. Mae gan ein tîm 88 o flynyddoedd o brofiad yn y sector lletygarwch, 133 o flynyddoedd o brofiad mewn Cynhyrchu Bwyd a 140 o flynyddoedd o brofiad mewn Busnes a Gweinyddu i enwi dim ond rhai.

8. Dros 7,000 o gymwysterau
Cyflwynwn gymwysterau prentisiaeth ardystiedig ar draws ystod o sectorau o Letygarwch, Busnes a Gweinyddu, Gofal a Gofal Anifeiliaid i Gynhyrchu Bwyd. Dros y 25 mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu 7,697 o brentisiaid i gael eu prentisiaethau a’u gwylio nhw’n datblygu a thyfu.

9. Rydym yn ddwyieithog
Mae 22% o’n staff yn medru’r Gymraeg!
Mae Hyfforddiant Cambrian yn ymroi i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal. Gallwn gyflwyno rhai o’n prentisiaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg – Darganfyddwch mwy FAN HYN

10. Gweithiwn ble bynnag y mae arnoch ein hangen ni
Nid oes yr un cwmni’n rhy fawr nac yn rhy fach ac nid oes yr un lleoliad yn rhy bell i ffwrdd nac yn rhy anghysbell. Bydd ein tîm profiadol ac ymroddedig yn hyfforddi ac yn uwchsgilio staff ble bynnag y bo angen, gweithiwn gydag ystod o gwmnïau gan gynnwys ffatrïoedd mawr a busnesau annibynnol llai o faint.

11. Mynyddoedd Cambria
Chi’n iawn. Cafodd Hyfforddiant Cambrian ei enwi ar ôl mynyddoedd enwog Cambria sy’n codi trwy galon Cymru, a’r cymunedau, y bobl a’r busnesau yng Nghymru sydd wrth wraidd y busnes.

12. Partner Trefnu World Skills UK ers 2015
Mae’r gystadleuaeth hon yn barod i brofi’ch sgiliau cyffredinol, arloesedd, creadigedd, cyflwyniad, moeseg gwaith a mwy. Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys pum tasg a fydd yn cael eu cwblhau a’u beirniadu dros ddeuddydd o flaen cynulleidfa fyw. Mae Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn bartner trefnu i’r Gystadleuaeth dros y 5 mlynedd diwethaf gan gyflwyno’r gystadleuaeth ledled y DU.

13. Partner cystadleuaeth Sgiliau Cymru ers 2016
Cystadleuaeth fawr arall y mae Hyfforddiant Cambrian yn falch o’i chyflwyno yw’r Celfyddydau Coginio, Gwasanaethau Bwyty a Melysion a Patisserie, gan alluogi’r cystadleuwyr i arddangos eu sgiliau lletygarwch, gan gynnwys; coginio proffesiynol, gosod byrddau, gwneud coctels a pharatoi Coffi Gwyddelig

14. Hyfforddiant Cambrian yn “Mynd yn Wyrdd”
Fel cwmni, rydym yn ymroi i leihau ein hôl troed carbon, yn ein tro, rydym wedi cyflwyno mesurau fel gosod goleuadau arbed ynni ar hyd a lled ein hadeilad, gosod paneli ffotofoltaig ar do ein hadeilad i gynhyrchu ynni yn ogystal ag uwchraddio cerbydau ein cwmni i geir Hybrid. Darganfyddwch mwy FAN HYN

15. Cyflogi yng Nghymru
Rydym yn falch o allu cynnig cyfleuster chwilio am swydd AM DDIM ar ein gwefan – os ydych chi’n chwilio am swydd, ewch i – Cambriantraining.com

16. Cymorth Recriwtio AM DDIM i Gyflogwyr
Gallwn helpu cyflogwyr i hysbysebu eu swyddi gwag AM DDIM a chynigiwn gymorth ychwanegol trwy hysbysebu swyddi gwag ar draws ein cyfryngau cymdeithasol – Mwy o wybodaeth; Cliciwch FAN HYN

17. Rydym yn helpu busnesau i dyfu.
Mae prentisiaethau’n gwella perfformiad busnes. Dywedodd ein partner, Celtic Manor, sydd wedi recriwtio 386 o brentisiaid fod “prentisiaethau’n ffurfio asgwrn cefn datblygiad gweithwyr yn y cyrchfan ac yn cynnig llwybr gyrfa i bobl sy’n dewis peidio â dilyn llwybr academaidd”
Rydym hefyd wedi derbyn clod gan ein partner Mainetti, a ddywedodd, “credwn fod hyfforddiant yn dyngedfennol i’r busnes.

18. Mae Hyfforddiant Cambrian yn tyfu
Dechreuon ni gyda dim ond rhai gweithwyr yn ôl ym 1995 mewn swyddfa fach a dathlon ni gyrraedd 50 o weithwyr ym mis Tachwedd 2013. Mae Hyfforddiant Cambrian bellach yn dîm arbennig o bron i 71 aelod o staff. Yn 2016, symudodd i safle mwy o faint yn Nhal-y-bont, y Trallwng, sef “Tŷ Cambrian” yn 2016.

19. Materion Cymunedol
Rydym wrth ein boddau’n cefnogi cymunedau lleol!
Yn Hyfforddiant Cambrian, rydym yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr bach lleol i wella’r economi yn eu hardal. Yn ogystal, rydym yn ceisio prynu gan gyflenwyr lleol lle bo’n bosibl ac rydym hefyd yn cefnogi llawer o sefydliadau a chlybiau chwaraeon lleol.

20. Mae elusennau’n bwysig i ni
Mae staff, prentisiaid a chwmnïau partner Hyfforddiant Cambrian fel ei gilydd yn cymryd rhan yn aml mewn digwyddiadau elusennol gwych i helpu codi arian mawr ei angen ac ymwybyddiaeth i elusennau. Gan enwi dim ond rhai; yn 2019, cododd 2 aelod o staff £5,000 i gefnogi dyn gyda pharlys yr ymennydd, cododd cwmni partner, Radnor Hills £3,000 ar gyfer Mental Health UK a rhedodd 1 o’n prentisiaid Hanner Marathon Caerdydd! Hyfforddodd tîm cyfan a rhedon nhw’r hanner i ymchwil canser; FAN HYN

21. Mae gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr OBE!
Derbyniodd Arwyn Watkins, ein rheolwr gyfarwyddwr, ei OBE yn 2018 am ei wasanaethau i Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Yn fab i ffermwr, gadawodd Arwyn Ysgol Gyfun Llanfair-ym-muallt ym 1978 i ymuno â’r Fyddin fel cogydd prentis ac mae wedi cynnal ei ymrwymiad i raglenni prentisiaeth ar hyd ei fywyd gwaith gyda ffocws cryf iawn ar ddatblygu pobl. Mae’n parhau i hyrwyddo rhaglenni prentisiaeth fel y safon aur mewn busnes a diwydiant. Darganfyddwch mwy FAN HYN

22. Rydym yn amryddawn!
Ni all pandemig byd-eang ein hatal ni rhag hyfforddi’n prentisiaid a rhoi cefnogaeth i’n busnesau partner. Ers Covid-19, mae Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn gweithio’n galed i symud ein cefnogaeth a’n hyfforddiant ar-lein ac yn cwrdd ar blatfformau ar-lein. Cewch fwy o wybodaeth FAN HYN

23. Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif
Rydym yn cymryd eich diogelwch o ddifrif, mae Hyfforddiant Cambrian yn ymroi i hyfforddi’n staff ein hunain i’r safonau uchaf ar ddiogelu data ac amddiffyn, gallwch ddod o hyd i’n polisi Amddiffyn FAN HYN

24. Cefnogwn fusnesau
Rydym yma i gefnogi busnesau o bob maint, nid yn unig y mae ein staff ymroddedig a phrofiadol yn cyflwyno hyfforddiant o safon i’n prentisiaid, ond cynigiwn gefnogaeth marchnata a hysbysebu i’n partneriaid, gan helpu eu busnesau i ffynnu.

25. Ei Freuddwydio, Ei Ddysgu, Ei Fyw
Rydym am i bawb sylweddoli, o ddechrau eu taith brentisiaeth eu hunain, gallant gyflawni eu breuddwydion, trwy ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd ac ennill profiad a fydd yn eu helpu i fyw eu nodau gyrfa a bywyd eithaf.